English

Yn aml mae’n ofynnol i droseddwyr gymryd rhan mewn gwaith corfforol heriol ac mae dedfrydau o’r fath wedi profi’n effeithiol o ran lleihau cyfraddau aildroseddu a’u helpu i wynebu eu gweithredoedd.

Fel rhan o’u gorchymyn, efallai y bydd yn ofynnol i droseddwyr gymryd rhan mewn rhaglen i roi sylw i’w hymddygiad ac mae CAC Cymru yn darparu ystod eang o wasanaethau sy’n mynd i’r afael â materion fel cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, yfed a gyrru, gamblo ac ymddygiad ymosodol.

Hefyd efallai y bydd rheolwyr troseddwyr yn ymwneud â datblygu pecyn o gefnogaeth fel help gyda thai, iechyd meddwl, addysg a hyfforddiant a rheolaeth ariannol i helpu troseddwyr i weddnewid eu bywydau er gwell.

Drwy gyflawni eu dedfryd yn y gymuned, mae troseddwyr mewn gwell sefyllfa i gadw mewn cysylltiad â’u teulu a chadw eu cartref a’u swydd, ac mae’r rhain i gyd yn ffactorau sy’n gallu helpu i’w hatal rhag aildroseddu.

Mae troseddwyr sy’n cael dedfryd i’w chyflawni yn y gymuned yn cael eu goruchwylio gan reolwr troseddwyr. Mae gan y ddwy ochr gontract ac mae’n rhaid i’r troseddwr gytuno i fynychu apwyntiadau goruchwylio.