Pwy ydym ni
Gwnaethom ddechrau masnachu fel cwmni cyfyngedig ar 1 Mehefin 2014 fel rhan o raglen y llywodraeth ar gyfer diwygio gwasanaethau prawf ac rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.
Ar Chwefror 1, 2015 bu i Working Links sydd yn gwmni cyhoeddus, preifat a gwirfoddol fod yn berchnogion newydd ac yn gyfrifol am baratoi gwasanaethau Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae hun mewn partneriaeth a Innovation Wessex, sydd yn gwmni ar y cyd wedi ei ffurfio o gyn weithwyr yr ymddiriedolaeth prawf.
Rydym yn cyflogi tua 650 o staff mewn swyddfeydd ledled Cymru, gan gyflawni llawer o'r gwaith yr oedd Prawf Cymru yn ei wneud yn flaenorol. Rydym yn helpu i gadw Cymru’n ddiogel drwy reoli troseddwyr risg isel a risg canolig yn y gymuned, a rhoi cefnogaeth iddynt droi eu cefn ar droseddu.
Mae’r map ar y dudalen hon yn dangos y pump uned gyflawni leol sy’n gyfrifol am reoli tua 8,000 o oedolion sydd wedi troseddu.
Mae Cynllun Gwasanaeth Blynyddol Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ar gyfer 2016-17 ar gael yn awr, cliciwch yma.