Swyddi				
				
	
		
		Diolch ichi am ystyried Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru fel cyflogwr.
Mae 700 o bobl yn gweithio i Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (CAC Cymru), yn cydweithio â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ac mewn partneriaeth â chymunedau i wneud Cymru’n fwy diogel. Rydym yn anelu at gyflogi gweithlu sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth yng nghymunedau Cymru a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg.
Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn CAC Cymru yn cynnwys:
- Swyddogion prawf a Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy’n gweithio’n uniongyrchol â throseddwyr
 - Gweinyddwyr yn darparu cymorth gweinyddol
 - Goruchwylwyr Gwneud Iawn â’r Gymuned sy’n goruchwylio troseddwyr sy’n gwneud gwaith di-dâl
 - Staff sydd wedi’u lleoli mewn carchardai, yn paratoi troseddwyr erbyn y byddant yn cael eu rhyddhau
 - Staff Gwasanaethau Corfforaethol yn gweithio yn yr adrannau Dysgu a Datblygu, TGC, Adnoddau Dynol, Cyllid a Chyfathrebu.
 
