Trosolwg o’r hyn rydym yn ei wneud
Rydym yn gweithio gyda thua 8,000 o oedolion sydd wedi troseddu, sydd naill ai wedi cael gorchymyn cymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig fel dedfryd gan y llys, neu wedi cael eu rhyddhau ar drwydded o’r carchar i fwrw gweddill eu dedfryd yn y gymuned.
Mae ein staff profiadol yn rhedeg cynlluniau Gwneud Iawn â’r Gymuned, lle bydd troseddwyr yn gwneud gwaith di-dâl ar brosiectau er budd y gymuned. Rydym hefyd yn darparu pecyn cefnogaeth i’w helpu i gefnu ar droseddu. Mae hyn yn amrywio o addysg a hyfforddiant i fentora a chefnogaeth i deuluoedd troseddwyr.
Mae ein rhaglenni’n mynd i’r afael ag yfed a gyrru, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, cam-drin domestig ac ymddygiad treisgar arall, ac yn annog troseddwyr i ddatblygu eu sgiliau meddwl.
Rydym hefyd yn paratoi i ddarparu gwasanaeth Drwy’r Gât newydd ar gyfer pob troseddwr sydd wedi’i ddedfrydu i lai na 12 mis yn y ddalfa, a byddwn yn parhau i weithio gyda throseddwyr sy’n bwrw dedfrydau hirach pan fyddant yn cael eu rhyddhau i’r gymuned.
Lle bo’n briodol, byddwn yn defnyddio dull Cyfiawnder Adferol lle bydd dioddefwyr a throseddwyr yn cytuno i gwrdd â’i gilydd, sy’n galluogi troseddwyr i sylweddoli’r niwed y maen wedi’i achosi a dangos eu bod yn edifar. Gall hwn fod yn brofiad cadarnhaol, llesaol ac adferol i’r dioddefwr a’r troseddwr.
Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’n partneriaid eraill yn y sector cyfiawnder troseddol, gan gynnwys llysoedd, carchardai, awdurdodau lleol, a sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.
Am ragor o wybodaeth am y gwaith a fydd yn cael ei wneud gan y CAC Cymru - lawrlwythwch ein dogfen Prosbectws Ymyriadau isod