Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn amlinellu ar ba sail y byddwn ni’n prosesu unrhyw ddata personol yr ydym ni’n ei gasglu oddi wrthych, neu’r ydych chi’n ei ddarparu ar ein cyfer. Darllenwch y polisi canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwyntiau a’n harferion ynglŷn â’ch data personol a sut y byddwn yn ei drin.
Diogelu Data
Mae sut yr ydym ni’n storio ac yn defnyddio eich data personol yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 1988 (y Ddeddf).
Os ydych chi’n dymuno gweld gwybodaeth bersonol amdanoch chi, cyflwynwch eich cais yn ysgrifenedig i’r swyddfa y buoch chi’n adrodd iddi ddiwethaf neu i’r unigolyn y buoch chi’n cysylltu ag ef ddiwethaf yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol os gwelwch yn dda. Fel arall, gallwch anfon eich cais at y Swyddog Diogelwch Gwybodaeth yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Swyddfa Prawf Llanelli, Stryd Lloyd, Llanelli, SA15 2PU.
Gwybodaeth y gallwn efallai ei chasglu oddi wrthych wrth ddefnyddio ein gwefan
Efallai y gallwn gasglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch chi:
- Unrhyw wybodaeth y byddwch chi’n darparu drwy gwblhau ffurflenni ar ein gwefan www.ddccrc.co.uk. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth y gallwch fod wedi’i darparu wrth ofyn am wasanaethau neu wybodaeth bellach gennym ni a all, o dan rhai amgylchiadau, gynnwys gwybodaeth bersonol sensitif.
- Os ydych chi’n cysylltu â ni, efallai byddwn ni’n cadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
- Manylion o’ch ymweliadau i’n safleoedd yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i, ddata traffig, data lleoliadau, gwe-flogiau a data cyfathrebu arall a’r adnoddau yr ydych chi’n cael mynediad atyn nhw.
Cyfeiriadau Darparwr Rhyngrwyd a chwcis
Efallai y gallwn gasglu gwybodaeth ynglŷn â’ch cyfrifiadur, lle bo honno ar gael, cyfeiriad eich Darparwr Rhyngrwyd, eich system weithredu a’r math o borwr sydd gennych, ar gyfer gweinyddiaeth ein system. Data ystadegol yw hwn ynglŷn â gweithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr, ac nid yw’n adnabod unigolyn.
Nid ydym yn defnyddio cwcis ar y safle hwn.
Y defnydd a wneir o’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu
Byddwn yn prosesu’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi inni yn unol â’r Ddeddf ar gyfer dibenion:
- Eich darparu chi â gwasanaethau recriwtio neu wybodaeth yr ydych chi’n gofyn amdanyn nhw gennym neu’r ydym ni’n teimlo y byddan nhw o ddiddordeb i chi, os ydych chi wedi cytuno inni gysylltu â chi ar gyfer dibenion o’r fath;
- Adrodd am astudiaethau achos ar ein gwefan, os ydych chi wedi cytuno i gael eich cynnwys mewn astudiaethau achos o’r fath;
- Cynnal ein hymrwymiadau sy’n codi o unrhyw gytundebau sydd wedi cael eu llunio rhyngoch chi a ni; a
- Eich hysbysu ynglŷn â newidiadau i’n gwasanaeth.
Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth i awdurdodau neu gyrff sy’n cysylltu â ni a chyda’r rhai’r ydym yn darparu gwasanaethau ar eu cyfer, partneriaid ac achredwyr hyfforddi, isgontractwyr a sefydliadau ymchwil i’r farchnad sy’n cynnal arolygon boddhad cwsmeriaid ar ein rhan.
Yn ogystal, rydym yn datgelu gwybodaeth ynglŷn â gweithwyr posibl i ddarpar gyflogwyr a chyflogwyr posibl, a gwybodaeth ynglŷn â chyflogwyr posibl i ddarpar weithwyr a gweithwyr posibl. Byddwn yn gwneud datgeliadau ychwanegol yn unig i drydydd parti os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd neu le y mae hyn wedi cael ei ganiatáu drwy’r gyfraith.
Cysylltu â gwefannau eraill
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanyn nhw nac am unrhyw golled na niwed a all godi wrth eu defnyddio. Gall gweithredwyr safleoedd eraill gasglu gwybodaeth oddi wrthych a fydd yn cael ei defnyddio ganddyn nhw yn unol â’u polisi diogelu data eu hunain. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn
berthnasol i’n gwefan ni’n unig. Nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd a geir mewn gwefannau eraill. Dylech chi bob amser fod yn ymwybodol o hyn pan ydych chi’n gadael y wefan hon ac rydym yn eich annog i ddarllen y datganiad preifatrwydd ar unrhyw wefan arall yr ydych chi’n ymweld â hi.
Diogelwch
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy’r rhyngrwyd yn hollol ddiogel. Er ein bod yn gwneud ein gorau i warchod eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo i’n safle; mae unrhyw drosglwyddo a wneir ar eich risg eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, rydym ni’n defnyddio technolegau safonol y diwydiant a mesurau diogelwch er mwyn diogelu eich gwybodaeth, ac mae gennym safonau diogelwch llym er mwyn ceisio atal unrhyw fynediad anawdurdodedig ati.
Eich hawliau
Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Er mwyn derbyn copi o’r wybodaeth bersonol hon, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom i’r cyfeiriad a welir ar ddiwedd y polisi hwn. Gallwn godi tâl bychan am hyn fel sy’n cael ei ganiatáu drwy’r gyfraith.
Rydym eisiau sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn fanwl gywir ac wedi cael ei diweddaru. Gallwch ofyn inni gywiro neu dynnu gwybodaeth yr ydych chi’n ystyried ei bod yn anghywir.
Gorfodi’r gyfraith
Rydym ni’n cydweithredu’n llawn â’r heddlu i adnabod pobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon. Mae gennym yr hawl i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgareddau yr ydym ni’n credu’n rhesymol eu bod yn anghyfreithlon.
Sut i gysylltu â ni
Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’n polisi preifatrwydd neu ynglŷn â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi:
Ysgrifennwch at ein Swyddog Diogelu Gwybodaeth yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Swyddfa Prawf Llanelli, Stryd Lloyd, Llanelli, SA15 2PU.
Cydsyniad
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n rhoi eich caniatâd i bolisi preifatrwydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Os nad ydych chi’n cytuno â’r polisi hwn, peidiwch â defnyddio’r safle hon. Mae gennym yr hawl, fel y gwelwn yn dda, i ddiweddaru, newid, addasu, ychwanegu neu dynnu rhannau o’n safle a’n polisi o dro i dro.