English
News

Croeso i Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru - Darparwr gwasanethau prawf

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau prawf i helpu i leihau aildroseddu ac amddiffyn y cyhoedd rhag niwed.

Rydym yn gweithio gyda throseddwyr risg isel a risg canolig, gan reoli eu dedfrydau cymunedol a rhoi iddynt yr wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth i’w galluogi i roi’r gorau i droseddu.

Mae hyn yn cynnwys rhaglenni adfer ac adsefydlu arbenigol; gwneud iawn â’r gymuned - gwaith di-dâl; addysg, hyfforddiant a chyflogaeth; mentora a gweithio gyda theuluoedd troseddwyr.

Crëwyd y Cwmni Adsefydlu Cymunedol ar 1 Mehefin 2014 fel rhan o raglen y llywodraeth ar gyfer diwygio gwasanaethau prawf. Yr un pryd, sefydlwyd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i fod yn gyfrifol am droseddwyr risg uchel, cynghori’r llysoedd ar ddedfrydu, cysylltu â dioddefwyr, ac eiddo cymeradwy. Rydym yn cydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan.

Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru nawr o dan berchnogaeth Working Links sydd yn gwmni cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sydd yn ymroddedig i gynorthwyo pobol i newid ei bywydau am y gorau. Mae Working Links yn gweithio mewn partneriaeth hefo Innovation Wessex,cwmni cymunedol cydfuddiannol sydd wedi ei wneud i fynnu o gyn-weithwyr yr ymddiriedolaeth prawf.

  • RT @CRCSWales2CP: More photos from @NichHouse, we're repairing the stone walls #TeachingOffendersNewSkills #CommunityPaybackWorks https://t…
Dilynwch ni
Youtube YouTube