Hygyrchedd y wefan a sut i newid maint y testun
Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi darparu gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat sy'n hygyrch i bawb, beth bynnag fo'u gallu neu anabledd.
Rydym yn ceisio cynnal Lefel AA Menter Hygyrchedd y We (WAI)
Beth yw gwefan hygyrch?
Mae gwefan hygyrch yn un sy'n darparu ar gyfer yr ystod lawn o ddefnyddwyr.
Newid maint testun
Gallwch ddefnyddio'r gosodiadau porwr i newid maint y ffont er mwyn helpu'r rhai sydd â nam ar eu golwg.
I gynyddu neu leihau maint y testun, pwyswch gyda’i gilydd y bysellau ‘Ctrl’ a ‘+’ ar eich bysellfwrdd.
Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn symudol, edrychwch ar opsiynau hygyrchedd yn eich gosodiadau. Ar y mwyafrif o ddyfeisiau, gallwch gynyddu maint y testun drwy ddefnyddio'r dull chwyddo a gwasgu:
[Llun: GestureWorks]
Newid yr iaith i Gymraeg/ Saesneg
Mae CRC Cymru yn trin yr iaith Gymraeg a Saesneg yn gyfartal, felly mae’r wefan yn hollol ddwyieithog. I newid yr iaith i Gymraeg/Saesneg, cliciwch y botwm uwchlaw ein logo yn yr hafan.