Ail Gyfle
Gweithdy ail gyfle yn Llanelli yn rhoi cyfleoedd newydd i droseddwyr
Ar ôl iddo droi dalen lân gyda help y gwasanaethau prawf, mae cyn-droseddwr bellach yn rhoi “ail gyfle” i droseddwyr eraill. Mae’n ddysgu sgiliauiddynt fel rhan o brosiect ailgylchu elusennol flaengar, a hynny yn y gobaith y gallant eu defnyddio mewn swydd yn y dyfodol.
Profiad cyntaf Dai Rees o’r gwasanaeth prawf oedd 12 mlynedd yn ôl pan fu’n rhaid iddo gydymffurfio â gofyniad adsefydlu cyffuriau. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel rhan o brosiect peilot newydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, Ail Gyfle.
Partneriaeth rhwng Uned Cyflawni Leol Cwmni Adsefydlu Cymunedol Dyfed Powys a Chanolfan Antioch, yn Ffordd y Gwaith Copr, Llanelli, yw Ail Gyfle ac mae’n rhoi cyfle i droseddwyr ddysgu sgiliau newydd ar gyfer gwaith mewn gweithdy ar gyrion Llanelli. Rhoddir hyfforddiant iddynt wneud gwaith saer a gwaith coed drwy ailgylchu hen baledi pren, dodrefn a riliau cebl sydd heb eu defnyddio er mwyn creu cynnyrch arloesol i’r cartref a’r ardd er enghraifft cadeiriau, byrddau, meinciau, cafnau plannu a ffynhonnau gofuned.
Mae Dai’n cael ei gyflogi gan Ganolfan Antioch i gynnal y gweithdy i droseddwyr sydd wedi’u dedfrydu gan y llysoedd i wneud gwaith di-dâl drwy’r Cynllun Gwneud Iawn i’r Gymuned.
Esboniodd Dai: “Pan o’n i ar brawf, fe wnaethon nhw lot o les imi. Fe roeson nhw help imi ddatrys fy mhroblemau a ‘ngwneud i’n well person.
“Achos ‘mod i wedi bod drwy’r system brawf, rwy’n gallu cydymdeimlo â’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Rwy’n deall bod rhai o’r bobl sy’n dod yma wedi cael problemau gyda chyffuriau yn y gorffennol. Rwy wedi cerdded y llwybr yna ac wedi cael trefn arna’i fy hun, ac rwy’n gallu cyfathrebu â nhw. Pan fyddwch chi’n cydweithio’n agos â rhywun, bydd eu problemau nhw’n dod i’r wyneb ac os galla’i helpu mewn unrhyw ffordd neu eu cyfeirio at bobl eraill sy’n gallu helpu, fe wna’i hynny. Mae hyn rhoi llawer o foddhad imi.”
Yng ngweithdy Dai, bydd dynion sydd wedi troseddu’n cael eu rhoi mewn lleoliadau grŵp a lleoliadau i unigolion lle byddant yn dysgu am iechyd a diogelwch, codi a symud llwythau a sgiliau gwaith coed sylfaenol. Mae ‘na ystafell grefftau yn y prosiect hefyd ac yma, bob dydd Mercher, bydd grŵp o fenywod sydd dan Orchmynion Cymunedol yn uwchgylchu dodrefn a nwyddau eraill i’r cartref i greu cyfres o nwyddau ac eitemau “ffasiynol dreuliedig” i’r cartref. Mae’r menywod yn dysgu sgiliau ym maes lletygarwch ac ailgylchu.
Mae cymwysterau Rhwydwaith y Coleg Agored y bydd troseddwyr yn eu hennill yn cael eu cymeradwyo gan Goleg YMCA Cymru ac yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr.
Dywedodd Nigel Hickey, Swyddog Gwneud Iawn i’r Gymuned: “Ein gobaith ni yw bod troseddwyr, wrth ennill y cymwysterau hyn, yn ennill sgiliau ar gyfer gwaith yn y dyfodol.”
“Rydyn ni’n cyfrannu’r coed ac yn rhoi ail gyfle i’r bobl hyn,” meddai.
Ers dechrau’r prosiect peilot menter gymdeithasol ym mis Medi 2014, mae mwy na 300 o baledi a hen riliau ceblau pren, sydd wedi’u rhoi gan fusnesau lleol, a dodrefn nad oes ar neb eu heisiau, wedi cael eu hailgylchu. Caiff yr eitemau eu gwerthu gan Ganolfan Antioch i gynnal y gweithdy ac i gefnogi ei gwaith i helpu teuluoedd sydd mewn angen neu dan bwysau ariannol, drwy gyfrwng ei banciau bwyd, dodrefn a dillad, clybiau cinio a chynlluniau chwarae.
Yn ogystal â Gwneud Iawn i’r Gymuned, mae grwpiau eraill o droseddwyr a gwirfoddolwyr yn elwa o feithrin eu sgiliau yn y prosiect. Er enghraifft, mae’r rheini sy’n dod o dan y cynllun Rheoli Integredig Troseddwyr, prosiect sy’n gweithio gyda throseddwyr mynych, wedi dechrau dod yno, diolch i gefnogaeth Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gaerfyrddin.
Mae’r prosiect hefyd yn cyfrannu at gynllun carbon sero Antioch gan obeithio y bydd hyn yn cryfhau cais y prosiect am arian dan Raglenni Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Deborah Chapman, rheolwr cyllid a datblygu cymunedol Canolfan Antioch: “Mae nifer o fanteision yn deillio o weithio gyda Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru. Mae’n cydweddu’n dda iawn â’n gwaith partneriaeth a’n hethos o weithio gyda phobl ar gyrion cymdeithas a’u gweld yn cymryd camau i wneud dewisiadau gwahanol, gwella’u bywydau, dysgu sgiliau newydd ac yn y pen draw, i gael gwaith.”
Sut y dechreuodd hyn i gyd?
Swyddog Gwasanaethau Prawf Llanelli, Siân Waters, yw’r sbardun y tu ôl i brosiect Ail Gyfle.
Cafodd y syniad y llynedd ar ôl gweld cymaint o goed oedd yn cael ei daflu yn yr ardal. Daeth at Ganolfan Antioch yn y lle cyntaf a ffurfiwyd partneriaeth. Yna, aeth at y timau Gwneud Iawn i’r Gymuned, ac fe aethon nhw ati i gasglu hen baledi pren ac offer i wneud meinciau gwaith a hel cyfarpar i’r gweithdy a’r ystafelloedd crefftau.
Siân sy’n rhedeg yr ystafell grefftau erbyn hyn, lle bydd menywod yn dysgu peintio ac addurno’r dodrefn sy’n cael ei wneud yn y gweithdy. Mae hi bob tro’n cael syniadau am eitemau crefft i’w dysgu i’r menywod, boed hynny’n beintio hangers dillad, ailgylchu hen ganiau diod i’w troi’n dagiau anrhegion a gwneud canhwyllau.
Mae’r steil “ffasiynol dreuliedig” yn boblogaidd iawn, felly bydd y menywod yn dysgu sgiliau sy’n magu hyder ac yn gwneud iddyn nhw feddwl y tu allan i’r bocs. Mae a wnelo hyn ag adeiladu tîm a gwneud iddynt deimlo’n well amdanynt eu hunain.
“Bydd llawer o’r menywod yn cael y crefftau’n therapiwtig ac yn mynd â’r technegau y maen nhw wedi’u dysgu adref gyda nhw i’w defnyddio pan fyddan nhw’n teimlo dan straen. Mae’r rhan fwyaf o’r menywod ar fudd-daliadau, ac mae rhai hyd yn oed wedi bod gwneud pethau i’w teuluoedd gartref.”
Ym mis Mehefin, cafodd Siân gydnabyddiaeth am ei gwaith arloesol yn rowndiau terfynol Gwobrau Prawf Cenedlaethol 2015, sy’n cydnabod rhagoriaeth yng ngwasanaethau prawf y Deyrnas Unedig.
Dywedodd, “Rwy’n gredwr mewn cefnogi pobl i dyfu a datblygu ac rwy’n falch iawn pan fyddai’n gweld defnyddwyr ein gwasanaethau’n newid eu bywydau er gwell.”