Cadw pethau'n lleol
Prosiect peilot yn dod a'r gwasanaeth prawf i'r gymuned
Mae darparu gwasanaethau prawf mewn adeiladau cymunedol lleol yn debygol o ddod yn fwy cyffredin yn y dyfodol ac mae un prosiect peilot o'r fath yn profi'n llwyddiant mawr.
Mae’n hawdd cerdded heibio i ddrws Ty Hartshorn heb sylwi arno hyd yn oed, ond ychydig oddi ar brif stryd Maesteg mae canolfan gymunedol yn darparu llu o wasanaethau i bobl agored i niwed.
Ac nid yw’r arwydd cynnil sy’n darllen ‘Gwasanaeth Iechyd a Lles’ yn rhoi unrhyw gliw am beth sydd y tu ôl iddo. Ond yma mae posib cael cefnogaeth gyda chamddefnyddio alcohol a chyffuriau, i gyn-filwyr a’u teuluoedd, i’r rhai sy’n dioddef trais domestig, pobl sydd wedi colli anwyliaid, yr henoed ac eraill.
Fis Mawrth eleni, daeth hefyd yn gartref am ddeuddydd yr wythnos i Becky Phillips, Swyddog Gwasanaethau Prawf gyda CRC Cymru, sy’n gallu cynnal apwyntiadau prawf yng nghalon y gymuned erbyn hyn. Mae’n golygu nad oes raid i droseddwyr dreulio dwy awr neu fwy yn teithio i’r swyddfeydd prawf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn ôl ac mae hynny’n golygu eu bod yn fwy tebygol o gadw at eu hapwyntiadau.
Ond mae llawer mwy i’r ganolfan gymunedol na chydymffurfio yn unig. Yn Nhŷ Hartshorn, sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr a’i weithredu gan G4S, mae cefnogaeth ar gael i droseddwyr gan 37 o wahanol asiantaethau, i’w helpu i newid eu hymddygiad er gwell.
Mae Becky, a’r Swyddog Prawf Sarah Hopkins, yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Cyffuriau ac Alcohol y Gymuned, er enghraifft, drwy sicrhau bod y rhai sydd angen help arbenigol yn gallu ei gael. Mae merched agored i niwed yn gallu cael help gyda phopeth o drais domestig i ymdopi â cholli babi yn y groth. Mae’r cyfleoedd rhwydweithio’n golygu bod yr asiantaethau’n gallu cydweithio’n rhwydd a cheir cynlluniau i droseddwyr ymuno â chyrsiau fel cymorth cyntaf, iechyd rhywiol a hyd yn oed arbed ynni yn Nhŷ Hartshorn.
Darperir yr holl gefnogaeth mewn ystafelloedd golau ac agored, sydd wedi’u hadnewyddu’n ddiweddar, gydag awyrgylch braf iawn. Mae hynny ynddo’i hun yn cael effaith ar lwyddiant ein gwaith, fel yr esbonia Becky:
“Mae posib ymlacio’n braf yma ac mae gen i ystafell ar gael i mi drwy’r dydd ac rydw i’n gallu treulio mwy o amser gyda’r troseddwyr sydd angen hynny. Maen nhw wedi bod yn fwy parod i fod yn agored am bethau a pheidio â bod mor warchodol. Os ydyn nhw’n ypsetio, does dim ots, oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i weld pobl maen nhw’n eu hadnabod yn yr ystafell aros.
“Rydyn ni’n gweithio gyda phrosiect Cymunedau yn Gyntaf a Phrosiect Cwm Llynfi 20, sydd wedi cael yr enw yma am eu bod nhw’n dweud bod y bobl sy’n byw yma’n marw 20 mlynedd yn rhy gynnar. Mae cynlluniau i gyfeirio pobl oddi wrth gyffuriau drwy roi iddyn nhw fwy o weithgareddau cymunedol i’w gwneud, fel garddio a therapi celf. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer gwersi coginio, cardiau ryseitiau a help gyda banciau bwyd. Y nod yn y tymor hir yw i’r rhain gael eu rhedeg gan bobl yn y gymuned sydd wedi dod drwy broblemau fel camddefnyddio cyffuriau eu hunain o bosib, ac sy’n gallu helpu i gefnogi eraill i wneud yr un peth,” dywedodd.
Bydd Stevie*, sydd ar brawf ar hyn o bryd am droseddau lladrata o siopau, yn cael help gan Dîm Cyffuriau ac Alcohol y Gymuned wrth iddo geisio rhoi’r gorau i gymryd heroin.
“Mae’n llawer gwell dod yma. bob cam i Ben-y-bont ar Ogwr,lle roeddwn i’n taro ar bobl ac yn dechrau defnyddio eto.Mae’n llawer brafiach yma ac fe fydda’ i’n cael yr help rydw i ei angen.”
*Rydym wedi newid ei enw