Adeiladu cysylltiadau yn y gymuned
Mae aelodau'r eglwys ym Mhowys wedi canmol troseddwyr a atgyweiriodd rhan bwysig o'i thir
Bu i'r timau, a oedd yn cyflawni gwaith di-dâl hefo Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru fel rhan o'i dedfryd yn y gymuned, ailadeiladu 10 medr o wal gerrig oedd wedi dymchwel yn Eglwys Sant Edward yn Dref-y-Clawdd
Dywedodd John Watson, trysorydd yr eglwys: “Rydym wrth ein boddau â’r gwaith hwn o dan y cynllun gwneud iawn â’r gymuned. Roedd y troseddwyr wedi’u cymell a’u hysbrydoli gan eu goruchwylydd, a chael ymdeimlad o gyflawni rhywbeth a bri personol.
“Fel cyngor eglwys, treuliasom lawer o amser yn meddwl sut allem dalu am y gwaith atgyweirio hwn, felly roeddem yn croesawu’r prosiect hwn yn fawr.”
Cyn cychwyn y gwaith, cafodd goruchwylydd y cynllun gwneud iawn â’r gymuned, Rod Evans o Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, gyngor gan saer maen lleol, Keith Jones. Cyflawnodd gwrs er mwyn dysgu’r sgiliau sydd angen i ail-adeiladu’r wal ac yna hyfforddodd y troseddwyr i weithio ar y prosiect.
Dywedodd Rod Evans: “Roedd hwn yn brosiect sylweddol, ac roedd fy nhîm yn teimlo ei fod yn fuddiol iawn; maen nhw wedi cyfrannu’n gadarnhaol i gymuned Trefyclo a bydd y profiad o fudd mawr iddynt yn y dyfodol.”
Dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys: “Mae hyn yn dangos sut y gellir cyflwyno cyfiawnder yn lleol ac yn effeithiol. Gall troseddwyr wneud iawn am eu camwedd, ennill sgiliau a gwella bywyd ar gyfer cymunedau hefyd.
“Rwy’n annog pobl Dyfed-Powys i enwebu prosiectau cymunedol eraill a allai elwa o’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned.”
Gwneud Iawn a'r gymuned - Ffurflen Enwebu
Dywedodd Dave Fields, rheolwr tîm yn Uned Cyflenwi Lleol Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru: “Mae’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned yn galluogi troseddwyr i ddysgu sgiliau ar gyfer cyflogaeth, ac yn eu hannog i ymddwyn mewn modd positif a pharchu’r gyfraith.
“Mae’n lleihau aildroseddu, yn gwneud cymunedau’n fwy diogel, ac yn cynyddu hunanhyder a balchder dinesig.
“Rwy’n falch bod aelodau’r eglwys yn hapus â’r prosiect hwn.”
Syrthiodd tua 10 medr o wal ar ochr orllewinol mynwent eglwys Sant Edwart rai blynyddoedd yn ôl ac roedd y cyngor eglwys yn poeni sut i ariannu’r gwaith atgyweirio.
Cyfrannodd Cyngor Tref Trefyclo £1000 tuag at y gost o brynu 32 tunnell o gerrig a morter calch a darparodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru’r llafur am ddim.
Dechreuodd aelodau drafod y cynllun gwneud iawn â’r gymuned â Chwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru yn yr haf. O fewn 3 wythnos, roedd asesiad wedi’i gynnal a thîm wedi’i roi at ei gilydd er mwyn atgyweirio’r wal morter calch, sydd dros ganrif oed.
Dywedodd Mr Watson: “Mae preswylwyr lleol a phobl sy’n cerdded heibio wedi dweud wrthym gymaint gwell mae’r wal yn edrych nawr. Mae’r rhai sy’n gwybod am y gwaith adeiladu’n dweud bod y dynion wedi gwneud gwaith arbennig.”
Dywedodd Mr Fields: “Mae’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned yn ymwneud â throseddwyr yn gweithio i wneud Cymru’n ddiogelach a glanach. Mae troseddwyr yn cyflawni eu gwaith mewn grwpiau bychain, gyda goruchwylydd, neu’n unigol mewn sefydliadau gwirfoddol neu fentrau cymdeithasol. Mae troseddwyr yn cael eu hasesu’n ofalus ymlaen llaw a diogelwch y cyhoedd yw’r brif ystyriaeth.”
Llongyfarchodd Esgob Abertawe ac Aberhonddu, y Gwir Barchedig John Davies, bawb a fu’n gysylltiedig â’r gwaith a wnaed yn Eglwys Sant Edwart.
Dywedodd: “Roeddwn i’n bresennol mewn gwasanaeth yn Nhrefyclo yn gynnar fis Hydref ac roeddwn i’n medru gweld y gwaith a oedd yn cael ei wneud a llongyfarch y rhai a oedd yn gyfrifol.
“Mae’r cynllun gwneud iawn â’r gymuned yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n rhan ohono i gyfrannu rhywbeth gwerth chweil. Rwyf wir yn gobeithio bod y cynllun yn eu helpu i ddatblygu gwell synnwyr o hunanwerth a hunan-barch.”