Gwirioni ar fyd natur
Troseddwyr ar gynllun Gwneud Iawn â’r Gymuned yn troi encil ar Benrhyn Gŵyr yn hafan i fywyd gwyllt
Mae troseddwyr yn gwneud gwaith di-dâl fel rhan o’u dedfryd gymunedol wedi ennill gwobr genedlaethol am droi tir canolfan encilio yn hafan i fywyd gwyllt.
Maent wedi creu cynefinoedd a gwneud blychau tylluanod, pwll nadroedd, cartrefi i ddraenogod ac amrywiaeth o drychfilod ac wedi adeiladu byrddau ac offer bwydo adar. Maent hefyd wedi creu dodrefn gardd, wedi plannu gardd synhwyraidd a gosod llwybr gweddi.
Mae’r prosiect yn Nicholaston House, canolfan encilio Gristnogol uwchben Bae Oxwich, wedi ennill y brif wobr yn y gwobrau bywyd gwyllt blynyddol a drefnir gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS).
Llwyddodd i ennill y blaen ar geisiadau o fyd prawf a charchardai ledled Prydain i sicrhau’r wobr gyntaf yn ogystal â’r wobr am y prosiect allgymorth gorau. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r gwaith yn Nicholaston House ennill y wobr allgymorth ond y tro cyntaf i brosiect Cymreig gipio’r brif wobr.
Bu’r troseddwyr yn gweithio dan arweiniad y goruchwyliwr Lawrence Uzzell, sydd hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy gael gwobr cyflawniad arbennig.
Simon Morse-Jones o Abertawe yw’r Swyddog gwneud Iawn â’r Gymuned yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru (CRC) sy’n gyfrifol am reoli gwaith di-dâl y troseddwyr.
Dywedodd: “Mae’n llwyddiant gwych gan ein bod yn cystadlu yn erbyn carchardai lle y mae ganddynt fwy o amser i weithio ar brosiectau.
“Rwyf hefyd yn falch fod gwaith Lawrence wedi cael ei gydnabod gan ei fod ef yn gweithio gyda grwpiau amrywiol iawn o weithwyr, rhaid ohonynt yn deall fawr ddim Saesneg, ac mae’n trosglwyddo rhai sgiliau gwerth chweil.”
Mae llawer o’r eitemau wedi cael eu gwneud yng ngweithdy CRC Cymru ym Mhort Talbot dan arweiniad y goruchwyliwr Noel Williams a enillodd y wobr cyflawniad arbennig y llynedd.
Nid y bywyd gwyllt yn unig sydd wedi elwa o’r prosiect hwn. Meddai Simon: “Mae’r bobl yn Nicholaston wedi cymryd at y defnyddwyr gwasanaeth yn fawr iawn, yn dangos parch tuag atynt a ddim yn eu barnu am yr hyn y maent wedi’i wneud.
“Mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael tystysgrif Rhwydwaith y Coleg Agored mewn Iechyd a Diogelwch ac mae rhai yn gallu ennill sgiliau mewn peintio a gwaith coed. Gall ennill tystysgrif ysbrydoli pobl sydd erioed wedi derbyn un o’r blaen.”
Gofynnodd Mike Hurst am gymorth y gwasanaeth prawf gyntaf pa aeth i Nicholaston House i wella yn dilyn llawdriniaeth ac roedd yn synnu cyn lleied o adar oedd yno. Dywed fod y gwaith a wnaed gan y troseddwyr yn golygu fod digonedd o adar i’w gweld yn yr ardd erbyn hyn, ond fod y manteision yn ymestyn yn llawer pellach na hynny.
“Mae’n rhyfeddol gweld y newid yn y troseddwyr sydd wrth eu bodd yma ac ynom ni fel Cristnogion sy’n rhyngweithio â hwy. Rydym yn gweld effeithiau sy’n gallu newid bywydau,” meddai.
Dywedodd y beirniad Dr Phil Thomas: “Roedd yn bleser beirniadu. Fel bob amser, roedd pob ymgais am y wobr hon o safon eithriadol o uchel, sy’n tanlinellu ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff a’r troseddwyr tuag at y maes hwn, sef bioamrywiaeth gynaliadwy.”
Mae Nicholaston House, sydd â’i gapel bychan ei hun yn y gerddi, yn darparu lloches i bobl sy’n ceisio heddwch ysbrydol yn ogystal â’r rhai sy’n gwella yn dilyn gwaeledd corfforol neu feddyliol.
Cyflwynir y gwobrau gan Michael Spurr, Prif Weithredwr NOMS mewn seremoni yn Nicholaston House ym mis Gorffennaf.