Cyfleoedd tendro a phartneriarth
Rydyn ni’n cydnabod y rôl arbenigol allweddol sy’n cael ei chwarae gan gyflenwyr i gefnogi gwasanaethau rheng flaen a pherfformiad gweithredol er mwyn lleihau cyfraddau aildroseddu.
Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae CAC Cymru yn comisiynu ac yn prynu gwasanaethau gan y sectorau preifat, gwirfoddol ac elusennol er mwyn ategu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud eisoes gyda throseddwyr, mewn perthynas â'r canlynol yn benodol:
- camddefnyddio sylweddau
- cyngor ynghylch llety
- cyllid, budd-daliadau a dyledion
- help gydag addysg drwy sgiliau hanfodol
- cyngor ynghylch cyflogaeth a hyfforddiant
- cyfleoedd eraill amrywiol ar gyfer gweithgareddau dargyfeirio gyda ffocws
Rydyn ni’n contractio gyda sefydliadau eraill sy’n gallu cynnig help arbenigol gyda chosbi ac adsefydlu troseddwyr sy’n cael eu goruchwylio yn y gymuned i gyflawni’r amcanion canlynol:
- Rydyn ni eisiau annog troseddwyr i newid eu ffordd o fyw er mwyn atal aildroseddu a chyflwyno gwerth am arian yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu cyflwyno.
- Rydyn ni eisiau bod yn y sefyllfa orau i gyflawni canlyniadau ac i gael effaith gadarnhaol ar gyfraddau aildroseddu.
Bydd cyfleoedd tendro’n cael eu hysbysebu ar y wefan hon ac rydyn ni’n eich cynghori i edrych ar y dudalen yn rheolaidd, a hefyd gwefannau 'GwerthwchiGymru' a’r 'Official Journal of the European Union'.
Rydyn ni’n cynnig prosesau caffael proffesiynol ac agored er mwyn sicrhau’r partneriaid gorau i gyflawni’r canlyniadau gorau am y gwerth gorau.