English

Mae Cwmni Adsefydlu Cymunedol (CAC) Cymru wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg 2014-17 yn datgan sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor hon wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Un o brif amcanion y cynllun yw cefnogi amcanion busnes craidd CAC Cymru – sef helpu i leihau cyfraddau aildroseddu a chreu cymunedau mwy diogel i’r bobl sy’n byw yng Nghymru.

Sgiliau cyfathrebu effeithiol yw ein prif ddull o weithredu ac felly mae cynnig dewis iaith yn elfen sylfaenol o’n llwyddiant. Fel rhan o’r strategaeth hon, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y staff i gyd yn gallu dangos cwrteisi ieithyddol yn y Gymraeg i leiaf.

Ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg – Gweithredu

Rydym wedi ymrwymo i ddwyieithrwydd ac i roi lle blaenllaw i weithgareddau Cymraeg ym mywyd y cwmni o ddydd i ddydd a’i fusnes. Mae CAC Cymru yn awyddus i weld yr Iaith Gymraeg fel iaith busnes mewnol. Mae’n credu’n gryf y bydd defnyddio'r Gymraeg yn fewnol yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y staff yn cael eu hannog i ysgrifennu a siarad Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd a bydd cefnogaeth yn cael ei darparu i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, i ddatblygu eu sgiliau.

Cynllun Iaith Gymraeg 2014-17 (pdf, 208Kb) .

Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg 2015 (pdf, 307Kb)

Lluniwyd y cynllun hwn yn unol â chanllawiau gan Gomisiynydd y Gymraeg dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ac fe’i cymeradwywyd yn ffurfiol gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 8 Rhagfyr 2014 yn dilyn proses ymgynghori agored.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â [email protected]