Pobl sydd wrth galon Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ac mae cydraddoldeb wedi’i ymgorffori yn yr un modd.
Er mwyn sicrhau bod CAC Cymru yn cydymffurfio â safonau cydraddoldeb, mae nifer o flaenoriaethau wedi cael eu datgan a’u trosi’n gynllun gweithredu. Rydyn ni’n credu bod yr amcanion yn ddeinamig ac y byddant yn ein helpu i symud ymlaen gyda’r gwaith o brif ffrydio cydraddoldeb a hawliau dynol, hybu cynhwysiant a darparu gwasanaethau gwell sy’n diwallu anghenion defnyddwyr a staff ein gwasanaeth.
Mae ein Prif Weithredwr yn gyffredinol gyfrifol am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a bydd yn parhau i sicrhau bod y sefydliad yn cynnal ei ffocws ar gyflwyno gwasanaeth sydd ar gael i bawb ac sy’n datblygu diwylliant gweithle sy’n gwerthfawrogi ac yn croesawu amrywiaeth.
Amcanion Cydraddoldeb:
Dyma amcanion CAC Cymru:
- cyhoeddi gwybodaeth berthnasol, gymesur sy’n rhoi ystyriaeth briodol i’r Ddyletswydd Cydraddoldeb ac yn cydymffurfio â hi
- sicrhau bod amcanion yn benodol ac yn fesuradwy
- cyhoeddi amcanion mewn ffordd sy’n golygu eu bod ar gael i’r cyhoedd
Blaenoriaethau wedi’u datgan gan ein staff a defnyddwyr ein gwasanaeth yw’r rhain ac maent wedi’u hymgorffori yn ein Cynllun Busnes er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o fusnes pawb o ddydd i ddydd. Mae CAC Cymru yn gwerthfawrogi adborth ar ein hamcanion, i helpu gyda datblygu amcanion cydraddoldeb pellach, gan bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys staff, rhanddeiliaid, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau statudol.
CAC Cymru Amcanion Cydraddoldeb 2014-15 (Word, 129Kb)
Adrodd yn ôl ar Gydraddoldeb:
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb 2011 yn berthnasol i gyrff cyhoeddus ac eraill sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Ei bwriad yw cefnogi penderfyniadau da drwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ystyried sut bydd gwahanol bobl yn cael eu heffeithio gan eu gweithgareddau, gan eu helpu i gyflwyno polisïau a gwasanaethau sy’n effeithlon ac yn effeithiol, sydd ar gael i bawb ac sy’n diwallu anghenion amrywiol y rhanddeiliaid.
CAC Cymru Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-15 (Word, 385Kb)
Mae’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn ddogfen gynhwysfawr ar ein gweithgareddau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn flaenoro.
Monitro Cydraddoldeb:
Monitro cydraddoldeb yw’r broses rydyn ni’n ei defnyddio i gasglu a dadansoddi’r wybodaeth bersonol am ein staff a defnyddwyr ein gwasanaethau. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu darparu mewn ffordd sy’n annog mynediad i’n holl gymunedau amrywiol gyda chanlyniadau tebyg, o ganlyniad i ddefnyddio ein gwasanaeth.
Cefnogaeth i’r Staff
Mae CAC Cymru yn anelu at fod yn gyflogwr o ddewis i bawb. Er mwyn gwasanaethu ein cymunedau amrywiol, mae’n bwysig ein bod yn cyflogi gweithlu medrus a chadarn sy’n cynrychioli ac yn deall anghenion y gymuned leol. Rydyn ni’n cefnogi ymgysylltu’r staff â chymdeithasau cenedlaethol.
Cymdeithasau staff cenedlaethol
- Cymdeithas ar gyfer Swyddogion Prawf Duon (ABPO): mae’n gweithio i wella cydraddoldeb ledled y gwasanaeth prawf, gan sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn gyson, heb wahaniaethu a thrwy fynd i’r afael â gwahaniaethu ym mhob maes cyflogaeth a chyflwyno gwasanaeth.
- Cymdeithas Genedlaethol o Staff Prawf Asiaidd (NAAPS): mae’n cynnig cefnogaeth, cymorth a chynrychiolaeth ffurfiol i’w haelodau ac yn ceisio helpu i leihau a dileu achosion o wahaniaethu yn erbyn Asiaid. Mae NAAPS yn gweithio i sicrhau bod y gwasanaeth prawf yn darparu cyfleusterau i staff Asiaidd o ran anghenion diwylliannol, gofynion deietyddol ac arferion crefyddol.
- Rhwydwaith Cenedlaethol i Staff Anabl (NDSN): mae wedi ymrwymo i sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a chynhwysiant yn dod yn rhan flaenllaw o bolisi cyflogaeth, cynllunio, prosiectau a gweithrediadau o ddydd i ddydd.
Fforwm Cydraddoldeb
Bydd Fforwm Cydraddoldeb CAC Cymru yn cael ei sefydlu a bydd yn darparu arweiniad a chyfarwyddyd gweithredol mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd y Fforwm yn cael gwybodaeth a data rheolaidd am berfformiad fel sail i flaenoriaethau a chamau gweithredu gofynnol i gefnogi gwelliannau parhaus. Bydd ganddo rôl allweddol mewn dylanwadu ar amcanion cydraddoldeb a’u monitro.