EIN GWELEDIGAETH
Bydd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, trwy ein gweithlu medrus ac mewn partneriaeth, yn darparu gwasanaethau prawf sy’n diogelu’r cyhoedd, lleihau aildroseddu a gwneud Cymru'n ddiogelach.
EIN GWERTHOEDD
Cefnogi newid
Credwn fod pobl yn gallu newid, ac rydym yn cefnogi troseddwyr i ddod yn aelodau cyfrifol o'r gymuned.
Ymgysylltiad
Rydym yn gweithio o fewn a chyda cymunedau i greu Cymru ddiogelach trwy ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill.
Rydym yn gwrando ar y cyhoedd, troseddwyr a’n staff i wneud ein gwaith yn fwy effeithiol.
Parchu pobl
Rydym yn gweld gwerth yn ein staff fel ein hased pwysicaf, yn annog datblygiadau newydd ac yn parchu eu proffesiynoldeb.
Rydym yn cefnogi ein gilydd, yn rhannu arferion gorau ac yn buddsoddi mewn datblygu ein pobl.
Rydym yn ymdrechu i fod yn deg, agored a thryloyw, ac yn annog cyfathrebu effeithiol yn y sefydliad drwyddo draw.