English
Uwch Reolwyr

Dawn Blower, Cyfarwyddwr Prawf

Mae Dawn wedi gweithio ym maes y gwasanaeth prawf ers 2005, gan weithio mewn swyddi cyflawni lleol a datblygu busnes. Roedd yn ddylanwadol yn y gwaith o reoli prosiect uno Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ac ers hynny mae wedi arwain uned datblygu lleol Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr yn llwyddiannus.

Hefyd mae Dawn wedi rheoli'r uned gwybodaeth am berfformiad, y swyddogaeth rheoli contractau ac agweddau ar faterion masnachol. Mae wedi bod yn arweinydd strategol ar gyfer Prawf Cymru yn maes cyfiawnder adferol, iechyd troseddwyr a chyflogaeth, hyfforddiant ac addysg. Cyn ymuno â’r gwasanaeth prawf, bu Dawn yn gweithio ar gynllunio a datblygu busnes ar gyfer Heddlu De Cymru. Mae ganddi radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Seicoleg a gradd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.